Milton Nascimento

Gyda’r holl drafod sydd ar hyn o bryd am yr “angen” i artistiaid o Gymru i ganu yn Saesneg, mae’n werth cofio bod ser byd-eang yn gwneud bywoliaeth fwy na boddhaol o ganu yn eu hiaith nhw.

Er enghaifft, mae Milton Nascimento o Frasil yn llenwi’r Forum yng Ngogledd Llundain hyd yn oed.

Dwi’n gwybod hynny achos mi es i’w weld yn perfformio yno tua 2007.

Dyma fe yn gneud run fath yng Nghanada.

A cyn i chi son am holl siaradwyr Sbaeneg y byd, cofiwch taw iaith Portiwgal sydd gan Frasil!

Mae yna sin o Frasil wedi cyrraedd Kensal Green gyda chaffi, bwytai a hyd yn oed siop recordiau o Frasil pan oeddwn i’n byw yno.

Fel mae’n digwydd Milton Nascimento sy’n serennu hefyd ar LP Duran Duran “the Wedding Album”.

Cewch ati i ddod o hyd i’r trac…llais swynol, ond dyn sydd hefyd wedi cyfansoddi ballet ym Mrasil, ac erbyn hyn yn ffigwr tebyg i Frank Sinatra..neu Dafydd Iwan ni’r Cymry!

Gwych o ddyn…

Ac yn bersonol dwi’n hoffi’r ffaith nad ydw i’n deall dim yw dim o’r geiriau…heblaw Lennon/McCartney falle…

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s