Heno gyfeillion, mae hi wedi cymryd hanner awr imi mond gyrraedd y dudalen lle mae’n bosib imi osod blog, fel’ny mae weithiau.
A nawr dwi ma, dwi am eich annog i ddod o hyd i Gymro/aes alltud sydd a chlust am gerddoriaeth, unrhyw gerddoriaeth i ddweud y gwir..fe newn ni cadw clust ar beth sy mlaen fan hyn …
(e.e. Cwpwrdd Nansi ar Nos Fercher 16eg Ionawr yng nghlwb Gwdihw yng Nghaerdydd; ebostiwch pancymru at dailingual dot com gyda digwyddiadau eraill wrth gwrs)
…felly gallwn ni neud y tro wedyn a’r newyddion o’r byd i gyd, y tu hwnt i Landod a phob dim.
Rhai cwestiynnau elfennol yn fy nharo i, Pedr eich gwas bach ar fferm fach panwalescymru, heddiw ma:
1) Beth sy’n hela chi i ganu?
2) Beth sy’n hela chi i ddawnsio?
Hoffwn ni weld enghreifftiau ar fideos bach y ffonau smart os gwelwch yn dda, helwch ni i’r youtube neu hysbyswch ni drwy ebost (uchod)
ac os mai’r Chwe Gwlad sy’n peri chi i ganu a dawnsio, dim problem.
Croesawn emynau, er bod ein beirniaid yn craffu ar y llyfr rheolau i weld a oes yna unrhyw emynau oddi tan y clawr ledr.
Pedr
ON Mae Cymdeithas y Norwegian Church yng Nghaerdydd,
a’r Eglwys Norwyaidd yn Abertawe yn annogi i chi ganu’r isod nes i chi ddod o hyd i gyfranogydd. A-ha i hynny…
Saved my day….. wonderful song :))