Noswaith dda.
Megis gohebydd gwahanglwyfus, rydw i wedi rhwygo fy nwylo oddi ar y trydar am ennyd er mwyn eich diweddaru am ein gwefan newydd…arall.
Yn fy nwylo nawr mi ddaliaf teclyn / tegan PlayBook gan bobl y mwyar duon, sydd yn ffilmo yn HD ond methu lanlwytho i youtube eto…
Serch ny ry ni fan yna hefyd mais oui..
Ta waeth, ar hyn o bryd http://www.panwalescymru.tumblr.com sy’n derbyn ambell i fideo…bron i funud yr eiliad i lanlwytho felly this could take some time fel mae’r Sais yn deud…
Yn y fideo diweddara, gwelwn Olion Byw yn fyw…roedd y gitarydd – Fflos oedd e i mi yn ysgol – yn ran amlwg o Supergroup Rodney Powell yn Eisteddfod ysgol; perfformiad fythgofiadwy o gan Pet Shop Boys wnaeth ysbrydoli criw o ni i ddechrau band…
a naeth morffio i Tips Wyn Gruffydd gyda help Dylan Ebz a Rhys ap Hywel o fewn y flwyddyn…gwir bob gair! Clicier y linc te, diolch yn dalpe.
WW