Mae Eich Mawrhydi yn ymflogio at eich sylw…

“Ar y llaw arall, mae rhywfaint o’r hyn sy’n cael ei adrodd yn hollol gywir. Ydym, rydym yn derbyn myfyrwyr sydd â phwyntiau UCAS cymharol isel, ac yn wir, rhai nad oes ganddyn nhw ddim pwyntiau o gwbl, sero, nada. Rydym yn gwneud hyn oherwydd yn Aberystwyth rydym yn croesawu pobl o bob cefndir sy’n profi eu bod yn gallu llwyddo yn eu dewis gwrs.”

Wrth i’ch Brenhines doeth deithio o un rhan o Ei Theyrnas Iceni-aidd i’r llall, o dro i dro mae un o’r lackeys yn dod a ffaith ffraeth at fy – Ei sylw.

Heddiw, roedd hoff lackey Eich Mawrhydi – does gen eich Brenhines yr un syniad beth yw ei enw, cariad bach – wedi dwyn i fy sylw y datganiad uwch oddi ar wefan http://www.aberystwyth.ac.uk .

Felly, mi rydw i , Buddug, Brenhines yr holl Eiceni yn datgan hefyd, fy mod yn barod i dderbyn y wahoddiad yma, ac felly yn ogystal a dechrau doethuriaeth yn teyrnasu’n deg, mi fydda i yn obeithiol o deyrnasu dros #haciaith eleni. Ac felly hefyd yr holl Brifysgol. Byddaf yn disgwyl gwahoddiad mewn aur wedi ei danfon ar ben eryr yn ystod y dyddiau nesaf. Neu, efallai na fyddaf i yn gallu dod o hyd i geffyl digon chwim i fy nhrosglwyddo o Nawrach* yn fy nheyrnas Eiceni-aidd i Benweddig wedi’r cwbl.

buddugol

Ysblennydd.

Amser i ymladd.

Ymlaen!

Eich Mawrhydi, yr Hon sy’n Teyrnasu Dros Holl Brythoniaid Gwlad y Brython

Buddug Eiceni

http://www.twitter.com/brenhinesbuddug

ON Bydd rhaid imi ddewis fy…newis gwrs? Pwy gyfieithodd yr uchod i Brifysgol Aberystwyth? Mi ladda i fe. Gallwch chi fyth ymddiried mewn cyfieithydd gyrywol, ferched. Maent yn llawer yn rhy brysur yn meddwl ynglyn a phethau eraill anfoesol.

* Editor’s note. “Nawrach” = Norwich in modern parlance, orig. Nor-Witch in the time of Queen Boedicea, the only true Queen of all of the Brythonic Isles.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s