Bethel Newydd
1) Awyr las * * *
Yr organ eglwysig yn bont rhwng y Bethel Hen a Newydd; mae’r band wedi cyrraedd! A digon sydyn mae’r adolygwr yn sylweddoli pa mor Anweledig ydy’r sôn am brosiectau cynnar GT yn yr adolygiad hwn.
2) Daw’r haf yn ôl * * * * *
Ydy’r #SRG yn marw? Gan @gaitoms yr ateb cywir : “Daw’r haf yn ôl”. #Campus #Bethel Newydd
3) Llyn Tekapo * * * *
Dim ofn gan @gaitoms efelychu #Jarman : bach o #reggae ar y #Bethel Newydd; dim drym na bas all o’i le
4) Bradwr * * *
Darn o waith sy’n amlygu’r teimladau cry’ sy’n ynghlwm â’r teitl. Dwi’n edmygu’r arbrawf, ac mae yna’r angen ar yr amgen wrth roi albym dwbl at ei gilydd…Ydy ni’n rhy rhydd gyda’r gair Bradwr i ddisgrifio’r rhai sy “Yn canu yn y Saesneg i gadw’r blaidd o’r drws”? Pwynt diddorol a phwysig tu hwnt yn 2013.
5) Anti Paganda * *
Yn sgìl llwyddiant band amlwg o Gymru sy wedi fy ngadael i yn y Niwl (ac sy heb amlygu’r iaith o gwbl wrth gwrs), dwi’n llai hoff o fiwsig “syrffio” nag oeddwn i pan biges i lan LP cynnar iawn gan y Beach Boys gartre. A doeddwn i ddim yn hoffi hwnnw ddigon i wrando arno eto. Felly’r marc terfynol uchod yn adlewyrchu fy rhagfarnau i yn fwy na’r cynnyrch, ac efallai bod yn gyfle i son am yr ansawdd uchel iawn sydd ar yr holl Bethel Newydd o ran cynhyrchu stiwdio http://www.sbensh.com . GT ei hun yn son am “parodi” ac “eironi” felly efallai ei fod yn rhannu rhai o fy rhagfarnau innau hefyd?
6) Haul ar fryn * * * *
Dechrau digon pwyllog, ond yn adeiladu i faint weddol epig. Arwrgerdd am angerdd (ac yr angen dynol sydd am gyffuriau?) felly. C.&W. L.
7) Eiliadau * * *
Sai’n sicr pan taw ar Bethel Newydd yn lle Bethel Hen ydy lleoliad y gân hon oherwydd y naws acwstig pert, ond doedd hynny ddim wedi becso fi ddigon i drydar @gaitoms ynglŷn â’r peth.
8) Glaw yr haf * * *
Olynydd fwyaf naturiol yr Anweledig fan hyn; cyffyrddiad o “Rings Around the World” SFA, ac nid peth drwg ydy hynny. Digon ‘Dodgy’ yn ystyr y band di-Gymraeg – nid o ran pleser gwrando. Fydd hon ar y radio pan ddaw yr haf, does dim (E)os am hynny. Sai’n sicr os taw Edwin Humphreys sydd fel sudd y nefoedd ar y sacs neu Barry Gwilliam sy’n cynnig y solo swynol, ond os dwi’n deall pethau’n iawn nid trombôn Owain Arwel Davies sydd wrthi’n wyllt fel Louis (Armstrong neu Jordan hynny yw).
9) Twll tyllu * * *
Wrth wrando ar Bethel Newydd (ac wrth gwrs dwi wedi cael y pleser o wneud hynny fwy nag unwaith yn ystod yr wythnosau diwethaf), tua’r adeg yma yn nhrefn yr offrwm mae dyn yn dechrau meddwl onid fyddai’n well – neu’n man lleiaf yn cynnig fwy o amrywiaeth – i Gai ystyried gymysgu trefn y traciau wrth fynd ati i greu ‘Best Of’ yn 2013. Eto, gen i ddigon o amser ac edmygiaeth am arbrofi ar albym dwbl, wedi’r cwbl mae’n rhaid mai dyna un o amcanion y fath prosiect. Y twll tyllu felly? Dyma beth fyddai McCartney wedi gwneud efo’r syniad “Why Don’t We Do It In The Road?” pe na bydde fe’n canolbwyntio ar undonedd ac ailadrodd bryd hynny. (Wrth gymryd yn ganiataol yn ystod y trosiad hwn y byddai Macca wedi mynychu Capel Cymraeg yn Lerpwl yn ei blentyndod.) Czech it out felly, mae’n ateb go dda i unrhywun sy’n honni mae sych, segur a hirwyntog yw’r SRG. A gallaf i greu trefn fy hun ar y chwaraewr cyfryngau Windows yma mae’n siŵr.
10) Stiletos gwydr * *
Yr adolygiad llawn ddiwethaf nes i o LP iaith Gymraeg oedd ar un o gasetiau (cofio rheiny?) Sobin a’r Smaeliaid. Ges i adolygiad go wael am fy arolygiad gan fy athro, ac yn hollol iawn; darllenais eto yn ddiweddar ac roedd hi’n ddarn o waith ag atgasedd at ymdrechion Bryn Fôn druan. Byddai Bryn siŵr o fod yn smalio i fod yn ddigon cysurus yn canu’r gân hon fel rhan o’i set yn y dyfodol, felly dweda i ddim mwy.
11) `Tân oer * * * *
Yw hi’n dweud mwy am y sin roc Angl-Americanaidd bod f’ymennydd i yn twrio yn ddifeddwl i geisio dod o hyd i ystyr amgen i eiriau gall fod yn ddigon diniwed? The Beatles, The Rolling Stones, Happy Mondays, Black Grape…mae’r stwff dwi ‘di bod yn dewis i wrando ar dros y blynyddoedd mor orlawn o gyfeirnodau i ddefnydd o gyffuriau anghyfreithlon mod i’n gweld siapau nad sydd yna yn y patrwm falle. Good crack? Good craic? Cetyn Taid neu bibell Magritte? Sdim ots gen i, mae’r Tân yma’n eiste’n gyffyrddus yng nghwmni fy nghasgliad roc’n’rol i. Gosgeiddig.
12) Diwrnod eliffantod * * * * *
#PinkFloyd yn cwrdd â #BrassedOff , “Diwrnod yr eliffantod” yn wych gen ti @gaitoms ! #Bethel Newydd : manylion archebu / prynu?
13) yn lucky for some
RT @gaitoms : http://sbensh.com neu http://sadwrn.com ar itunes yn fuan fuan, heb anghofio’ch siop lyfrau lleol (et al)! #bethelGT #bethel
RT @gaitoms : + Feinyl cyf. rywbryd yn 2013, gyda ‘best of Bethel’, slight remix. Mwy na thebyg, Bethel Newydd fydd o. Enw – Bethel V
Adolygiad / Casgliad : mae’n dipyn o jobyn cadw ansawdd ac egni dros albym ddwbl, ond mae Gai Toms wedi ceisio, a ry ni yng Nghymru yn mwynhau cais yn fawr iawn! Seren. [pedwar ohonynt:] 4 allan o 5!
* * * *