Mae ychydig (iawn) o ymchwil wedi dod o hyd i’r ffaith taw Dydd Llun 27ain o Fai oedd cyngerdd The Beatles yng Nghaerdydd, ac felly hanner-canmlwyddiant hynny wrth reswm bydd :
Dydd Llun Mai 27ain 2013 Caerdydd : ADayInTheDiff!
Hoffwn yn fawr i annog cyfranogwyr i hela eu teimladau, meddyliau, dolenni i fideos, fersiynnau o ganeuon, darnau o gelf ayyb i :
Pancymru AT gmail DOT com
Fe a i ati i drefnu lleoliad, darllediadau a ffilm fer falle.
Ysgrifennaf y blog bach yma heddiw i ledaenu’r gair, i gyflwyno’r syniad yn gyhoeddus gsn nad ydw i’n ymwybodol o unrhywun arall sydd wedi gwneud hynny eto, ac i gydnabod y ffaith mod i wedi dod o hyd i’r dyddiad hyn ar dudalennau cerddoriaeth BBC Cymru Wales wedi imi roi “Beatles were Welsh” neu’r tebyg mewn i beiriant chwilio arlein.
Doedd dim enw ar y darn o ohebiaeth, ond synnwn i ddim petai James McLaren oedd awdur y darn, felly mae ei ddylanwad yn parhau wedi i ni ei golli.
Nes i erioed ei gwrdd, ond pan oeddwn i’n chwarae a recordio cerddoriaeth werinol ei naws yn Llundain bron i ddeg mlynedd yn ol nawr, mi oedd a’r amser a’r brwdfrydedd i’m helpu i’w hybu felly roedd hefyd yn ddyn amyneddgar iawn ac yn fodlon helpu cefnogi unrhyw gerddoriaeth trwy ei waith. Mawr yw ei eisiau.
Diolch James.