Dydi hi ddim yn gyfrinach taw Telesgop yn Abertawe sy’n rhannol gyfrifol am roi sylfaen ac yn sicr sy’n cyflenwi’r adnoddau tuag at lwyddiant Pan Cymru / Wales.
Gan taw cwmni deledu yw Telesgop, fydd hi ddim yn gryndod syndod i chi chwaith eu bod a diddordeb i wybod be fydd ymateb a be ddaw o ddatblygiadau technolegol a diwylliannol o lwyfannu cerddoriaeth draddodiadol Gymreig ar youtube ayyb.
Felly, hyd yn oed cyn imi gael cyfle i olygu’r hyn recordiais yng Nghwpwrdd Nansi cyntaf Caerdydd yn Nhachwedd 2012 (credu fod yna gwpl o gyfweliadau lan ar broffil fy aka Dai Lingual ar soundcloud yn rhywle i chi gael clywed) roeddwn i wedi sylfaenu “sianel” youtube :
http://youtube.com/panwalesmusiccymru
sy’n cyflawni dau bwrpas ar wahan ond / a pharalel :
sef
1) creu’r ddelwedd ac arddangos potensial y prosiect i lwyfannu artistiad Cymru’n ogogeneddus
2) fod ar gael i roi proffil a chodi ymwybyddiaeth i ddigwyddiadau gwerinol eu naws sy’n bodoli yn barod;
h/y user-generated content.
be ydy hynny yn y Gymraeg dwed? Bydde hynny’n “user generated content” petai yna ateb yn dod i’r amlwg oddi tan y blog yma yndyfe!