Wrth reswm, byddai pobl y tu allan i Gymru yn fwy dueddol (sen i’n meddwl) i chwilio am “Wales” na “Cymru”;
er mae hi wedi bod yn ystyriaeth o ran ieithwedd pa iaith byddai’r fwyaf effeithiol;
ac fel mae’n digwydd er bod fy Almaeneg yn weddol a fy Ffrangeg, well, braidd yn petit ond yn bodoli; sdim digon o Sbaeneg i fod yn hollol sicr beth byddai dyn yn Ne America yn rhoi mewn i Amazon (geddit?!) i ddod o hyd i gerddoriaeth Gymreig…neu mae’n debyg taw iaith Portiwgal maent yn defnyddio ym Mrasil ynde…
felly Pan Wales yw facebook, yn arbennig o ystyried mai un o brif technegau y blog yma ar wordpress hyd yn hyn, sydd wedi dod a chryn dipyn o sylw yn ryngwladol hefyd cofiwch, yw’r cysyniad o ddatblygu ac ennyn cysylltiad a’r byd y tu hwnt i Gymru trwy trawsblannu syniadau a (rhagf-) barnau o Gymru i Gymry via
h.y. yn syml iawn, mae ein tudalen facebook yn ceisio creu cynnwys rhyngwladol ei naws i’r blog yma fel bod y blog yma yn cael ei ddarllen y tu hwnt i Gymru.
A ie, yn Saesneg mae ein “foreign correspondents” yn sgwennu, eu gwaith nhw hyd yn hyn o dan y tag “Lingua Franca”
[ Editor’s note : English language correspondents now accessible via “English” rather than “Lingua Franca” tag, although it serves the same function.]