Dydd Llun 27ain o fis Mai 1963
Ar Stryd y Frenhines yng Nghaerdydd, roedd yna bedwar llanc yn ymbaratoi at eu gig cyntaf yng Nghaerdydd:
John Lennon : Dyn ifanc o Lerpwl, le fel llawer iawn o’i genhedlaeth, roedd ganddo gysylltiadau cryf a Chymru.
I ddweud y gwir, roedd ganddo fwy na gysylltiad; oherwydd ei sefyllfa teuluol roedd yn cael ei godi gan deulu Cymraeg ei fam, a phrynodd ei gitar cyntaf iddo.
[Gweler #whenwalesinventedrocknroll ]
Ringo Starr : fel y gwelwyd yn The Observer ddoe, dyma dyn ifanc a chafodd ei fagu ar strydoedd Cymraeg Lerpwl. Enw go iawn y seren wib hwn oedd Rhishart Starrci, ond mi roedd pawb yn ei alw yn Ringo oherwydd ei allu annaturiol i fedru arddangos holl sgiliau rhif 10 clasurol tra’n chwarae yn safle’r canolwr.
George Harrison : nid fy lle i yw i brofi ei olion Cymraeg, ond gallaf eich cyfeirio tuag atynt os mynnwch chi. Cymro.
Paul McCartney : sefydlwr Wings, does neb wedi clywed ohono ers hynny fodd bynnag. Cafodd ei ladd mewn sawl can gan John cyn, yn ystod ac wedi’r Beatles ac yn y pen draw fe gollodd ei le yn y band i’r drymiwr skiffle enwog George Best.
I gofio a chadarnhau’r cysylltiadau yma gyda Chymru, mae Buffalo Bar yng Nghaerdydd wedi cynnig eu hadeiliad i ni cael dathlu ar :
Nos Lun, 27ain o Fai 2013.
Hapus i lwyfannu eich fersiwn chi o un o’r caneuon perfformiodd y Beatles; yn well byth i greu’r awyrgylch o 50 mlynedd yn ol, byddai un o’r canueon roeddynt yn perfformio fel “cover version” yn eu dyddiad Hamburg yn well byth! Trydarwch @cardiffrinj neu ebostiwch cardiffrinj AT dailingual DOT COM gyda dolen i’ch gwefan / perfformiad(au) chi.
Bydd yna groeso cynnes i bawb:
Gallwch chi wisgo fel un o deulu’r sin roc Gymreig a wnaeth achosi y ffrwydrad roc’n’rol dros y byd i gyd yn grwn os mynnwch chi : arwyr megis
Elfis Preseli. Chwerthwch nawr, ond cofiwch taw enw ei frawd oedd Aron, a roedd ei fam o …Breseli. #gwir
Jerry Lee Lewis : roedd hwn yn cadw’r hen ffordd Gymreig o fyw yn fyw trwy ei ymdrech dewr i gadw’r fferm yn y teulu, a achosodd i lawer i Sais ac Americanwr colli ffydd ynddo, ond nid ni’r Cymry. Cafodd ei goroni yn Dywysgo Cymru gan Phil Davies y clo enwog yng Nghasnewydd yn yr 80au.
Brian Jones : o’r Rolling Stones. Dim whare, oedd hwn yn Gymro gyda’i fam a’i dad yn byw dros y ffin yng Nghaerloyw.
Sam Phillips : a sylwodd ar Elfis Preseli yn chwarae rhwng y sessiynnau ffurfiol a gofynnodd iddo ail-greu yr awyrgylch hwylus hynny ar dap.
Yn ogystal, nid mater doniol yw’r ffaith (yn ol fy mrawd hyn a astudiodd Astudiaethau Americanaidd a Chymraeg yn Abertawe) bod nifer fawr o gaethweision wedi cymryd cyfenw eu ‘gangmaster’ : a welir hyd heddiw gydag enwau megis Sammy Davies Jnr, Carl Lewis, a dyma’r ddolen am wybodaeth bellach am hynny :
http://www.s4c.co.uk/americagaeth/e_caethfeistri-cc.php
A yw’n ormod i awgrymu fod yna gysylltiad diwylliannol yma hefyd; cafodd nifer ohonynt enwau Cymraeg ar ol bod mewn cyswllt a gwyr Cymreig…a oedd yn canu caneuon o Gymru mae’n siwr? Fodd bynnag
dyma Margie Evans http://www.anoomi.com/index.php?action=search&ytq=Margie%20Evans
dyma Ernie Williams http://www.erniewilliams.com/
a siawns eich bod chi wedi clywed o Miles Davies yn barod?
Yn ogystal a Quincy Jones mae’n siwr [fel y glywch ar ei ymweliad i Gymru isod]
http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/8132889.stm
Yn ogystal, bydd yna un o’r dorf o’r noson wreiddiol honno ar gael i’ch difyrru, ymwelwch a
http://youtube.com/panwalesmusiccymru am fwy fel hyn :