SAUNDERS!!! : Althusser a Foucault yn dawnsio’r Walz rownd Marx?

Yn ôl credoau Marcsaidd, mae’n anochel y bydd y lefel ‘macro’ yn dylanwadu’n helaeth ar y ‘micro’. Serch hynny, mae Robin Walz yn sôn yn ei ddisgrifiad ef o foderniaeth bod ysgrifennwyr megis Louis Althusser a Michel Foucault yn herio’r cysyniad o linyn cyswllt uniongyrchol rhwng y cyfryngau a thechnoleg (a sefydliadau diwylliannol) â’r gyfundrefn wleidyddol nad sydd yn ey tyb nhw yn creu adwaith mor syml â hynny.

Mao statue

Mae Foucault yn cydnabod bod yna newidiadau pendant o un epoc i’r llall; ac i raddau drwy osgoi ysgrifennu yn drwyadl ac yn ddisgrifadol am genedlaetholdeb, mae Karl Marx wedi rhoi cyfle i unrhyw athronydd i greu gagendor a phynciau trafod o’r newydd yn absenoldeb hynny. Heb ystyried y genedl, ni ellir llwyr ystyried ymateb ei ddinasyddion i reolau clwm y wlad.

Un dyn na wnaeth yr un camgymeriad oedd Saunders Lewis, a gan Wynn Samuel ambell i ymadrodd pwerus a defnyddiol yn ei ragymadrodd ef i Canlyn Arthur (t.9):

Swyddogaeth gwleidyddiaeth yw gwasanaethu, neu fel y dywed yr awdur mewn man arall,“ amcan gwleidyddiaeth yw ymgeleddu bywyd dyn”. ..i esbonio natur perthynas wleidyddol y person â’i gymdeithas, ei waith, ei undeb llafur a’i genedl sy’n “gymdeithas o gymdeithasau”.

Serch hynny, gwaith Foucault yw’r prif gysylltiad damcaniaethol rhwng fy ngwaith israddedig â’r prosiect yma. Ceir blas o waith fwyaf adnabyddus Foucault yn Aesthetics (2000):

Rydym yn ysgrifennu er mwyn osgoi marw…neu hyd yn oed yn siarad er mwyn osgoi marw.(t.94)

Mae’n rhaid siarad yn ddiddiwedd am hyd y gallwn ni, ac mor uchel â’r swn sy’n amhendant ei hyd ond sy’n sicr yn fyddarol. (t. 96)

Yn nhyb Foucault, mae pob dim sydd wedi cael ei feddwl yn cael ei ailadrodd yn ddiddiwedd: megis yr atomau sy’n hanfodol i’n bodolaeth sydd mor niferus.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s