Yr Hawl i Len-Ladrata / I’ve read some Brooks

Plentyn oes Thatcher ydw i, a magwyd mewn lleoliad ac amser lle oedd gwerthoedd sosialaidd Llafur wedi cyfuno gyda theimladau gwrth-Brydeinig Plaid Cymru i greu gorymdeithiau ar y cyd rhwng y ddwy blaid yna ar hyd strydoedd Aberystwyth yn erbyn yr hegemoni yn Llundain.

Ac yna, yn ystod fy amser fel dyn gymharol ifanc, i ddefnyddio geiriau Dafydd Glyn Jones yn ei gyflwyniad i lyfr Seimon Brooks Yr Hawl i Oroesi (2009, t8):

…daeth pethau fel ‘cynwysoldeb’, ‘amlddiwylliannedd’ a ‘chywirdeb gwleidyddol’ yn bynciau trafod, a rhoed estyniad einioes i’r hen ddadl ar ‘ddwyieithrwydd’. Yn ystod dau dymor cyntaf y Cynulliad cafodd to o wleidyddion Llafur eu hunain gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg a’i diwylliant, cyfrifoldeb a oedd yn ddiarth a chwithig iddynt. Bellach yn y trydydd tymor, dyma wleidyddion Plaid Cymru yn wynebu’r cyfrifoldeb o lywodraethu, a hyd yma ni buont hwythau’n rhy gyfforddus gyda’r gwaith. Yn wir, mae’n adeg ddigon rhyfedd.

Ydy, mae hi wedi bod yn adeg ddigon rhyfedd. Ac oherwydd nad oedd fy ngwaith yn y cyfryngau creadigol yng Ngorllewin Cymru’n ad-dalu fy nyledion coleg, mi es i weithio yn Llundain am ddegawd felly gen i safbwynt unigryw o Gymru a’i maes gwaith.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s