O archif arall archifwr

Dw i newydd ddod i ben â chywaith sy’n ceisio cysylltu ieithyddiaeth â’r we, felly maddewch i mi pe bai’r blog yma yn dechrau’n ychydig yn ffroenuchel ei naws…

Cyfieithais araith enwog Shakespeare o Hamlet yn ein tafodiaith gyfredol ni heddiw ar fy nhwitter @dailingual ym mis Tachwedd; fel Gareth Miles gynt. Sai’n credu bydd fy fersiwn i’n dod o fewn milltir o un Mr. Miles (credu falle naeth e lwyddo i gyfieithu gweddill Hamlet hefyd!), ond ta waeth roedd yna ormod o lyfrau yn y Llyfrgell Genedlaethol imi fedru dod o hyd i’w Hamlet ef i sicrhau hynny fel ffaith.

Gyflwynais i – mymryn – o’r cyfieithiad ar ddechrau’r wythnos i fy nghyfoedion i’w brofi.* Benthycais y rhagymadrodd yna le ma dyn yn ceisio bod yn anffurfiol a dweud nad oes angen i ddiffodd eich ffonau symudol, …”ond croeso i chi gadw nhw ymlaen os am drydar ac yn y blaen.” Ceisio peidio bod yn oeraidd, ond hytrach yn cŵl!

Mae sgwennu microblog yn mynd i gael cyfnodau le nad yw dyn yn cael rhyw lawer o ymateb, ond mae hyn yn gallu peri dyn i amau ei hun… felly geisiais i fod yn Samariad trugarog ar y trydar dros y penwythnos hefyd, ac fe wna i gario mlaen yn yr un modd drwy beidio â thynnu sylw i’r unigolyn yna. Wel, fe wna i ddim enwi hi fan hyn ta beth,

Roedd fy narn i o’r arbrawf ar-lein wedi mynd yn dda tu hwnt; diweddaru’r TL gyda fy nhrawsieithad o fyfyrdod Hamlet…yn anffodus doedd y cyhoedd heb gyfranogi dim rhyw lawer i’r cysyniad. Petawn i’n wyddonwr go iawn wrth gwrs bydden i’n honni fod yr arbrawf wedi gweithio achos bod hi’n profi rhywbeth ynglŷn ag agwedd y Cymry Cymraeg tuag at iaith a thuag at Shakespeare.

Dwi’n gredwr mawr nad ni fel Celtiaid sy’n ansicr am Shakespeare – fel nes son uchod ry ni’n barod i’w glodfori (pwy bynnag ydyw) trwy ei gyfieithu – ond y Saeson eu hunain. Mae Shakespeare, neu’r corff o waith sydd dan yr enw Shakespeare, mor gydnabyddedig, mor ddwys, mor werthfawr… ond gallai dyn treulio oes yn Lloegr heb yr un Sais yn sôn gair amdano, er gymaint mae eu hiaith yn benthyg ohono. Petai yna un cawr yn cysgodi’r gweddill yn ein llenyddiaeth ni, siawns na fyddai’n fwy o destun sgwrs? Er mae’n siŵr bod hi’n dipyn o destun pwy yw ein cawr mwyaf…Dafydd ap Gwilym, Saunders Lewis, Gareth Miles? Sydd heb mae’n debyg cael comisiwn gan Gyngor y Celfyddydau i ysgrifennu drama yn ystod y ddeng mlynedd diwethaf, a oedd yn dipyn o syndod i mi.

Rwy’n hoff iawn o ddisgrifiad Miles o brotestwyr y gorffennol yn ei ddrama “Diwedd y 70au”; pan mae “Dafydd Iwan yn ddyn busnes” ac mae yna son am Ffred Ffransis mewn ffordd nad ydw i’n sicr sy’n weddus i hyd yn oed y blog yma.

Ydy’r genhedlaeth sy’n protestio heddiw tipyn bach yn rhy fodlon eu byd? Er enghraifft, beth oedd diben cynnal digwyddiad “Byw Trwy’r Gymraeg” yng Nghaernarfon? Byddai’n golygu rhywbeth o werth petai hynny’n digwydd yn Llandrindod ar ffin ein diwylliant fel Cymry Cymraeg. Ond yng ngwlad y Cofis? Ghettoism byddai hynny yn oes Sherlock.

Serch hynny, byddai’n braf gweld digwyddiad tebyg yng Nghaerdydd flwyddyn nesaf, cawn weld…

Mae cyfieithu unrhyw destun yn ffordd ddefnyddiol a diddorol iawn o ddod i nabod darn yn well, fel nes i elwa o fynd ati i geisio cyfieithu Shakespeare.

Wrth gwrs wrth edrych ar rywbeth fel “i fod neu i beidio â bod,” un o’r cwestiynau sy’n dod i’r amlwg yw’r cwestiwn mawr ei hun:

“A yw’r Gymraeg yn fyw?”

Fel gwnaeth Greg Bevan datgan ar Facebook, roedd y Gymraeg yn gwneud yn iawn tan Ddydd Mawrth!

Mae’r cyfrifiad wedi dod i’r amlwg nifer o bwyntiau pwysig, ac wedi’r canlyniadau fel nes pwysleisio i neb llai (!) na Martin Shipton yn nhŷ bwyta Tsieniaidd ganol wythnos – sef gohebydd i’r Western Mail sy’n hoff o godi gwrychyn am ein hiaith – mae’n rhaid cofio :

· Mae nifer o siaradwyr Cymraeg yn marw – yn llythrennol – bob blwyddyn ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu gan y ffigyrau moel.

· Mae mewnlifiad o bob math yn codi’r nifer o “ddysgwyr” – a gan bawb yr hawl i ddysgu mewn eu ffordd eu hunain, boed hynny’n arwyddion ffyrdd neu ddosbarthiadau nos.

Ond cofiwch hefyd, bod y ddawn i ddeall darn o waith mewn un iaith, ac yna siarad ag eraill am hynny mewn iaith arall, yn defnyddio sgiliau meddwl o’r radd uchaf ac mae hyn ond yn bosib mewn diwylliant amlieithog, iachus;

megis sydd gyda ni yng Nghymru wrth i ddisgyblion o ysgolion iaith Gymraeg trafod eu diwrnod a’u gwaith gyda’u rhieni : – sydd efallai nid wedi cael gafael ar yr iaith eu hunain, ond sydd wedi dewis rhoi’r cyfle i’w plant i gael meddu ar gyfle nad oedd yn bosib i hwythau.**

Ac os edrychwch chi yn fanwl ar y ffigyrau, fe welwch chi fod y niferoedd sy’n dod i mewn i’r system addysg Gymraeg trwy waith http://www.meithrin.co.uk yn parhau i dyfu.

A fel’ny dyle hi fod!

——————————————————————————————–

* Un o fy hoff esiamplau o iaith Shakespear-aidd sy’n cael ei gamddefnyddio – neu gamddehongli yn reit aml yw’r ymadrodd “the exeption that proves the rule”. Yno, mae’r gair profi yn meddwl yr un fath a’r Gymraeg; hynny yw fe fydd yna bethau a fydd yn rhoi prawf i’r rheol er mwyn i’w chyfiawnhau. Rhowch hwnna yn eich sigâr i’w smocio! Mymryn bach defnyddiol i chi i dymor y partïon gwaith…bihafiwch da chi!

** I fod yn gwbl onest, sai’n siŵr nes esbonio’r pwynt yma i Martin Shipton yn y Cantonese yng Nglanrafon, ond wedyn, mae’n siŵr galla i ei gyfeirio ef at y blog yma nawr, yndê. Mi fydd yn deall i’r dim wedyn.

—————————————————————————

31/12/12

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s