O archif archifwr

“Llythyr agored” gydag anodiadau

“Annwyl Gymry,

Ysgrifennaf atoch i’ch hysbysu am gynnig a gall helpu ymwybyddiaeth defnyddwyr y we am eich menter cymdeithasol lleol. Fel glywson ni yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol o neb llai na Mr Talfan o’r BBC, eisoes mae dros hanner o Gymry yn defnyddio’r weplyfr http://www.facebook.com .”

Fel arfer, pan dwi’n cwrdd ag unigolyn mewn sefyllfa “carden busnes”, maent yn hoff o enw’r cwmni Dai Lingual ac yn dweud hynny, a dwi’n dweud rhywbeth reit hunan-ddarostyngiedig fel arfer fel,

“Ie, mae’r wraig yn dweud bod enw’r cwmni’n arbennig, ond fod angen imi feddwl am beth mae’r cwmni yn ‘neud nesa.”

Efallai nid y linell fwayf ymffrostgar i unigolyn o gefndir PR a marchnata…sydd fel mae’n digwydd yn ceisio dechrau cwmni marchnata…

neu PR?

Gyda llaw; y brif wahaniaeth rhwng marchnata a PR yw bod cwmni yn fodlon talu yn uniogyrchol am farchnata boed hynny yn boster neu nawdd, tra bod y byd llwyd ei liw o Public Relations (dydi Cysylltiadau Cyhoeddus yn y Gymraeg newydd ‘ma ddim cweit yn cyfleu’r ystyr rywsut) yn disgwyl cael “mensh” [mention] yn ddi-dal.

Felly, byddai Vauxhall er enghraifft yn cael mensh ar y News at Ten am ffatri newydd yn Llantrisant trwy PR ac yn hapus i dalu am hysbyseb yn ategu hyn yn ystod y toriad o’u cyllid marchnata.

Wrth gwrs, mae’n rhaid talu rhywun am greu y stori/datganiad newyddion hefyd…yn y Gymraeg hefyd bydden i’n gobeithio!!

Felly, beth bynnag, i newid y patrwm yma (o’r sawl a oedd ar fin gwrando i fy spiel yn troi rownd ac yn gadael oherwydd gormod o self-depreciation), rhaid imi ddysgu sut i restru’r ymgyrchoedd sydd wedi serennu hyd yn hyn. Ac fel dwi’n nodi ar ddechrau’r llythyr, gall hwn fod yn fuddiol i’ch Cylch/Clwb Ffermwyr Ifanc/Eisteddfod lleol chi pe baech yn dymuno hynny.

“Mae Dai Lingual wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau i godi arian i Eisteddfod y Fro o dan yr enw http://www.twitter.com/shyffl gan ddefnyddio’r weplyfr i’w hysbysbu; ac mewn ffordd fe wnaeth hyn arwain i wythnos o waith fel gohebydd arlein yn ‘trydar’ am yr Eisteddfod yn Llandŵ ac yn ychwanegu at wefan http://www.blogwyrbro.com ; gwefan sy nawr yn chwilio am ohebyddion newydd yn y Fro i ychwanegu eu hanes i’r gwaddol gweddol yna.”

Fy mewnbwn cyntaf i’r blog yna oedd son am arloeswyr yn y maes marchnata “viral” arlein; gan gynnwys ein ymdrechion cynharaf ym Mhrydain i argymell, stori neu declyn fydde’n dal y sylw ac yn trosglwyddo neges y ‘client’ trwy Ceffyl Trojan o farchnata fel petai heb i unrhywun sylwi pa hysbyseb maent wedi dala. Wedi meddwl, efallai bod yr enw yna wedi’i hawlio yn barod gan firws-iaid go iawn i gyfrifiaduron…

Mae sawl un yn y maes digidol yng Nghymru yn cytuno bod hi’n hen bryd i ni ddala lan a gweddill Prydain wrth geisio gwerthu ein talent fel gwlad; mae’r talent yma heb os – ac yn y maes decholoeg fe wnaeth griw o Gymry Cymraeg ennill blog gorau technoleg y flwyddyn yn The Welsh Blog Awards. Yn anffodus doedd dim llawer ohonynt ar gael ar y noson felly fel John Terry y brifddinas, es draw i godi’r cwpan (tysysgrif uniaith Saesneg) ar ran Hacio’r Iaith gyda un arall o’u criw sef Hywel Jones o Gaerdydd.

Roedd Hywel yn ddigon dewr i ddiolch ac annerch ond yn y Gymraeg…gan on i’n gwisgo’r crys T dai:lingual roeddwn i’n meddwl byddai well annerch yn y ddau iaith…

:::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::

Dychwelais i Gymru i sicrhau addysg cyfrwng Cymraeg am ddim i fy merch, a nawr dwi yma dwi’n frwd i geisio helpu sicrhau y cyfleodd ges i iddi hi ac felly pob plentyn ifanc arall yng Nghymru:

cyfle i chwarae a mwynhau am bethau arall gyrsiol mewn amgylchedd ysgol

cyfle i ymarfer a chystadlu chwaraeon a chelfyddyd ag ysgolion eraill

a phob dim arall oeddwn i’n cymryd yn ganiataol yn Ysgol Rhydypennau a Phenweddig, gyda diolch sylweddol i athrawon a rhieni yr ysgolion hynny.

:::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::

“Ar hyn o bryd rydw i’n un o’r tîm sy’n cynhyrchu rhaglenni ar ran Sianel 62, sy’n darlledu deunydd iaith Gymraeg yn fisol ar y we. Rydw i’n mynd i gydlynu darllediad yn y flwyddyn newydd dwi’n gobeithio bydd yn ddarllediad byw o ddigwyddiad sbesiffig i’r dasg.”

Cyn heddiw, wedi darparu deunydd iddynt o fy “sianel” http://www.youtube.com/beingwelsh .

Defnydd o twitter: dros 1,000 o ddilynwyr dros sawl ffrwd wahanol; gan gynnwys :

http://www.twitter.com/microsteddfod menter gymdeithasol i godi arian i Eisteddfodau lleol

http://www.twitter.com/hsayindex gwefan hanner ffraeth yn astudio ystadegau ambell i drydarwyr

http://www.twitter.com/dafyddapllwyd sydd newydd gyhoeddi’r LP

http://www.dafwyn.bandcamp.com

http://www.twitter.com/cardiffrinj gwefan newydd i hybu Gwyl ‘fringe’ i Womex yn 2013.

Rydw i wedi cael fy ngwahodd i greu a chynnal gŵyl ddiwylliant Gymreig yn yr wythnos sydd rhwng Sŵn a WOMEX yn 2013; mae nifer o leoliadau wedi cytuno i gynnig llwyfan i dalent Gymreig. Hyn yn dilyn fy noson llwyddiannus i Oxjam yn 2009 a chododd £500 i Oxfam yn Nos Da ger Stadiwm y Mileniwm a oedd wedi cael ei ddarlledu yn fyw ar Wedi 7 gyda chefnogaeth Sian Lloyd y Tywydd gweler http://www.youtube.com/dafyddapllwyd . Bydd creu presenoldeb arlein yn rhan anatod o lwyddiant y prosiect Cardiffrinj Caerdydd sydd newydd ddechrau yr wythnos hon wedi cyfres o gyfarfodydd cadarnhaol yn ystod yr wythnos ddiwethaf a busnesau y brifddinas.

Mae f’ymchwil diweddaraf (Nos Sadwrn) yn awgrymu byddai yna lefel o ddiddordeb sylweddol mewn ymgyrch yn 2013 i ddenu diddordeb a brwdfrydedd am ddiwylliant a chynnyrch Cymru cyn WOMEX yng Nghaerdydd yn yr hydref….

:::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::

Rwyf yn lwcus i fod ymysg y genhedlaeth gyntaf fyfyrwyr i ddefnyddio’r we yn y Deyrnas Unedig, a gan roedd fy mrawd yn yr Unol Dalieithau pan oeddwn i’n astudio ym Manceinion, dyna’r ffordd fwyaf effeithiol o gadw mewn cysylltiad felly’n buan iawn des i nabod y wahanol gonfensiynau. A nawrwan…

“Rydw i nawr yn cynnig fy sgiliau ieithyddol a thechnolegol yng Nghymru er budd elusennau a mentrau cymdeithasol sydd yn ystyried cael stondin yn Ninbych yn 2013, gobeithiaf i gael y cyfle i’ch cwrdd yn fuan.”

DL

dai:lingual

Hydref 2012

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s