Lledaenu’r We-fengyl?

rhinwedd pennaf y dechnoleg newydd, a’i bai mwyaf yr un pryd,…[yw’r] ffaith fod unrhyw un, yn unrhyw le, yn medru bod yn gyhoeddwr ac yn awdur gwefan.

Ceri Anwen James (2002)

Maes fy ymchwil acaemaidd yw’r rhyngrwyd a diwylliannau traddodiadol Cymreig; yn arbennig: y cyfryngau cymdeithasol modern a’u perthynas (neu ddiffyg hynny) gyda cherddoriaeth draddodiadol Gymreig. Yn yr erthygl hon, ac ar hyn o bryd, ceisiaf amlinellu gynllun manwl o’r camau ar gyfer cyflawni a chyflwyno’r ymchwil terfynol.

Oherwydd natur fy nghywaith, bydd rhan sylweddol ohono ar gael ar-lein ar ei derfyn, gan gynnwys cryn dipyn o waith wedi ei wneud mewn arddull ‘byd y teledu’. Adlewyrcha hyn y newid mawr sydd wedi bod yn natur y cyfryngau yn ystod ein hoes; fel y meddai Monroe E. Price yn Television : the public sphere and national identity (1995, t.3):

In the late 1940s , during his search for a new utopia, the poet W.H. Auden longed for an ‘ideal society [that]…would know no physical, economic or cultural frontiers.’ Today, the open society that knows no physical or cultural frontiers is upon us, or at least appears to be through its media version.

Prif amcan fy ymchwil felly bydd i asesu effeithiolrwydd y cyfryngau ar-lein o ran lledu a hybu diwylliant Cymru; ag ynddi elfen o ‘ledaenu’r we-fengl’ fel mae C.A. James yn awgrymu uchod. Yn benodol, byddaf yn ceisio hybu cerddoriaeth draddodiadol Gymreig mewn dull bydd academaidd er mwyn ateb y cwestiwn:

gall diwylliannau traddodiadol Cymreig cael eu cyflwyno mewn modd a bydd yn eu caniatáu i fod yn llwyddiant yn nhermau masnachol?

Nodais eisoes at sylw’r cwmni Telesgop – sef prif bartneriaid y prosiect ynghyd â Phrifysgol Aberystwyth – ‘Diben ein prosiect yw i greu gwefan o’r radd flaenaf i arddangos diwylliant hollbwysig o Gymru.’ Yn fy niweddariad pellach at sylw’r Brifysgol ei hun am fy amcanion pellgyrhaeddol gogyfer â’r cywaith sydd ar y gweill, rwyf yn ymwybodol fy mod yn ymddangos i geisio gwrth-ddweud datganiad Ceri James ar frig y traethawd hwn: ‘My stated aim is to create a vibrant, international online community that involves people in Wales and its music.’

Hynny yw, fy ngosodiad a fy nghred i yw, nad unrhywun gall ysgrifennu, darlledu a chyhoeddi ar y we mewn modd effeithlon, a bod hynny’n rhoi camargraff o’r grefft. Ac nid myfi yw’r cyntaf i alw cyhoeddi ar-lein yn grefft: meddai Wendy Hui Kyong Chun yn ei chyflwyniad i’w chyfrol hi New Media Old Media:A History and Theory Reader (2005, t.7):

[Lev Manovich] ..argues that programming in the early 2000s moved a new generation of artists away from the old and tired act of postmodern citation and towards a new romanticism and a new modernist aesthetic of clean lines and transparent causality.

Galliaswn i wedi aralleirio’r paragraff yna i ddweud taw cred Manovich yw bod artistiaid (yn yr ystyr llythrennol, traddodiadol o ‘artist’) ar-lein y “noughties” wedi dechrau symud ymlaen o adlewyrchu ac ail-adrodd gwaith eu cyndeidiau a’u cyfoedion yn y byd corfforol, ac wedi ceisio ati i greu delweddau dewr a rhamantaidd o’r newydd.

Ond, byddai hynny wedi cuddio’r iaith gymhleth, ddyrys y defnyddir gan Wendy Hui Kyong Chun sy’n arddangos pwysigrwydd o waith ar-lein ac yn adlewyrchu’r angen sydd i ni barhau hynny yn ein diwylliant a’n traddodiad ni’r Cymry. Ac nid dim ond am grefft yr arlunydd; ond hefyd i roi statws newydd i gerddoriaeth yng Nghymru.

Ni theimlaf mai cyd-ddigwyddiad ydyw fod yna cyn lleied o gerddoriaeth draddodiadol Gymreig wedi cael ei ddarlledu cyn dyfodiad Ian Jones i S4C yn ddiweddar; mae obsesiwn Cymry Cymraeg y cyfryngau gyda’r newyddion wedi bod yn rhoi pob dim arall i’r neilltu yn fy marn i, ac nid yn unig ar y teledu. Rhaid atgyweirio hynny gyda fwy o critique o’n bywydau diwylliannol.

[ Cariad Dosbarth Canol Cymru gan Y Ffug, yn fyw o gig Mafon 31/5/13 Clwb Rygbi Crymych ]

Credaf fod un enghraifft o lyfr o’r era cyn bod y we yn ei hanterth yn awgrymu’n gryf yr agwedd sydd wedi bod yn tra-arglwyddi : yn 1989 cyhoeddwyd y gyfrol Byd y Teledu gan Eifion Lloyd Jones, cyn-newyddiadurwr i HTV dan nawdd Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru. Yn y llyfr, mae’n cyflwyno’r darllenwr i wahanol fathau o raglenni teledu: ‘Camp y darllenydd newyddion yw ymddangos yn gartrefol ac awdurdodol yr un pryd…’ (E.L. Jones 1989 t.106). Ac yna, ‘Byddai’n ddiddorol cofnodi faint o gerddoriaeth diangenrheidiol a glywir ar y teledu.”’ (E.L. Jones 1989 t.107)

Nid yw hyd yn oed yn sôn am raglenni cerddoriaeth. Ai dyma’r agwedd sydd wedi – oni bai am ddefod yr Eisteddfod a llwyddiannau darllediadau’r Ŵyl Cerdd Dant – arwain at esgeuluso cerddoriaeth draddodiadol Gymreig o’n teledu braidd? Felly mae hyd yn oed fy ngosodiad cyntaf: ‘a gall diwylliannau traddodiadol Cymreig cael eu cyflwyno mewn modd a bydd yn eu caniatáu i fod yn llwyddiant yn nhermau masnachol?” yn ymddangos i fod yn ddibynnol ar ffactorau allanol ar yr olwg gyntaf. Bydd yn rhaid sicrhau fod y rhan grymusaf o’r gwaith yn cyrraedd y cyhoedd er gwaethaf – ac efallai nid oherwydd – y rhwydweithiau masnachol sydd yn bodoli yng Nghymru (ac ar y we yn y Gymraeg) ar hyn o bryd.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s