Adolygiad Theatr: Blodeuwedd (Theatr Genedlaethol Cymru)

Gan Lowri – perfformiad pwysig, pwnc pwysig, dda bod gennym ni Lowri roi adolygiad ac ongl feirniadol ar ein diwylliant – Wyn W.

Lowri Haf Cooke

Blodeuwedd

Ces i bleser pur ger Tomen y Mur wrth wylio cynhyrchiad Blodeuwedd. Denwyd fy sylw am deirawr o’r bron, ac ro’n i’n wên o glust i glust tan y diwedd.

Bendithiwyd y cynhyrchiad awyr-agored gan dywydd godidog a rhai o olygfeydd gorau Cymru. Ond y ddrama ei hun oedd seren y sioe,  diolch i  lwyfaniad oedd yn hollol ysblennydd.

Blodeuwedd

O’r eiliad y camais ar fws y Theatr Gen,  ces fy nghipio i fyd o hud a lledrith. Rhoddwyd drama  Saunders Lewis yn ei chyd-destun yn gyntaf, yn hanesyddol ac yn ddaearyddol, wrth i ni wrando’n astud ar y cyfarwyddwr Arwel Gruffydd yn adrodd pedwaredd gainc y Mabinogi ar ein cyrn clustiau.

Fe’n cludwyd yn hamddenol i Domen y Mur o safle atomfa Trawsfynydd. Wrth neshau at ein cyrchfan, daeth yr hanes yn fyw, a ffarweliwyd â’r byd cyfoes dros dro.

Blodeuwedd, Tomen y Mur

Do’n i ddim yn rhy siwr beth yn union i ddisgwyl wedi i mi dderbyn cyngor i wisgo esgidiau addas; cryn dipyn…

View original post 527 yn rhagor o eiriau

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s