Adolygu A-dna-bod!

Adnabod yw cryno ddisg newyd DnA, ac i weud y gwir dim ond y funud hon dwi’n sylw ( drwy “typo!”) fod DnA oddi fewn ADnAbod:

Clyfar iawn!

Dyma’r hyn drydarais yn flaenorol am yr albwm Adnabod :

“Cyfansoddiadau @dnafolk os rhywbeth ymysg traciau cryfaf yr LP #Adnabod @fflachcyf. Da iawn @sienco! @wynlewisjones ”

Mae’r detholiad o felodiau traddodiadol yn cynnwys rhai adnabyddus : “Sosban Fach” ac ambell un sy’n newydd i fi, ac yn llawn bywiogrwydd hefyd.

O ran ymfalchio yn nhalent y teulu o ardal Abertawe, be sy’n fy nghynhyrfu yw eu potensial fel cyfansoddwyr :

mae Angharad a Delyth Jenkins (merch a mam, wrth gwrs!) yn cynnig cyfansoddiadau gwreiddiol sy’n ysgytwol o dda;

ceir enghraifft o ambell un ar YouTube yn barod; chwiliwch am ‘Brandy Cove’; dyma yw ‘Nyth’ :

[wedi ei ffilmio yn ardal Abertawe, cartref y teulu) :

Buais hefyd yn ddigon lwcus i weld y marched yn chware yn eu lansiad yn Rhosygilwen, ble recordiwyd y set ac mi oedd yn noson arbennig o dda, gyda diolchiadau di ri – a storiau difyr tu ol bob melodi – yn dod o’r llwyfan gan gynnwys son am gyfoedion a fu yn ymweliadau a L’Orient [Llydaweg : An Oriant].

Os rhywbeth, garwn i weld fwy byth o gyfansoddiadau gan Jenkins/Jenkins tro nesa – a da yw label Fflach hefyd am gefnogi a galluogi DnA i rannu eu cerddoriaeth o’r un genynnau gyda ni oll.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s