———- Original Message ———-
From: cardiff.gov.uk
To: cardiffrinj@dailingual.com
Date: 18 July 2013 at 14:53
Subject: RE: Cardiff Ffrinj Festival!
Annwyl Mr Williams,
Diolch am eich gohebiaeth ynghylch ffrwd Twitter Gŵyl Caerdydd.Diolch yn fawr iawn i chi am dynnu fy sylw at hyn.Ar ôl derbyn eich e-bost, fe wnaethom unioni’r mater ar unwaith a chreu @GwylCaerdydd.
Mae’r Tîm Digwyddiadau a Chyngor Caerdydd yn ei gyfanrwydd yn ymrwymedig i drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gydradd ym mhob agwedd ar y gwasanaethau a gynigir.
Rydyn ni’n gweithio’n galed i sicrhau bod ein holl ohebiaeth yn ddwyieithog drwy gydymffurfio â Chynllun yr Iaith Gymraeg, sydd wedi’i atodi.Ymddiheuraf am y camgymeriad, ond rwy’n falch o nodi mai anaml y gwnawn gamgymeriadau o’r fath.Fel y mae’n siŵr y gwyddoch, mae safonau newydd yn cael eu cyflwyno gan y Llywodraeth a fydd yn atgyfnerthu ymhellach ein hymrwymiad i gynnig gwasanaethau dwyieithog a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ym mhrifddinas Cymru.
Unwaith eto, diolch i chi am dynnu ein sylw at hyn ac am eich cefnogaeth barhaus drwy’r cyfryngau cymdeithasol.
Yn gywir
Rheolwr Noddi a Marchnata Digwyddiadau
Dear Mr Williams,
Thank you for your correspondence regarding the Cardiff Festival twitter feed. Thank you very much for bringing it to my attention. Following your e-mail, we rectified it immediately and created @GwylCaerdydd.
The Events team and Cardiff Council as a whole is committed to treating the Welsh and English languages on the basis of equality in every aspect of service provision.
We work hard to ensure all our communication is bilingual by adhering to the attached Welsh Language scheme. I can only apologise for this oversight which I am pleased to say is a very rare occurrence. As you may know, new standards are being introduced by the Government which will further enable our commitment to providing bilingual services and promoting the use of the Welsh language in the Capital City for Wales.
Once again thank you for bring this to our attention and for your continued support especially through our social media channels.
Yours Sincerely
Event Sponsorship & Marketing Manager
>>>
My response to that is in the form of dance:
Woo-hoo let’s have this festival!
Noddir y neges yma gan Wyl Ffrinj Caerdydd