RHAGYMADRODD
Helais i pwt o’r isod i @leannewood tra’n ymchwilio am Iwerddon ac Adams ; dyma’r drafodaeth isod :
@dailingual : [14 July]
@ leannewood is national # culture the reflection of the politics, economics, values , attitudes, aspirations and thoughts of a nation?
LeanneWood @ LeanneWood 15 Jul
@ DaiLingual that’s a big question! Raymond Williams wrote reams about the definition of culture. I can’t answer in 140 characters…
Dai Lingual @ DaiLingual16 Jul
@ LeanneWood good answer # fairdos (was paraphrasing Gerry Adams). I also went the # Williams route in my blog about it https://panwalescymru.wordpress.com/2013/07/14/gerry-adams-dawn-y-cyfarwydd/ …
>>>
BRAW DROS Y DON?
Dw i newydd ddod i ben a darllen erthygl gan Gerry Adams (ie, yr un un), gan nad yw’n ysgrifennu yn y Gymraeg gallaf aralleirio i esbonio ei fod wedi datgan (yn The Politics of Irish Freedom, 1986) mai’r iaith yw’r brif ffordd i adfywio cenedl y Gwyddelod.
Neu, yn iaith yr Ynys Werdd:
“Tosóidh athghabháil na hÉireann le hathghabháil na Gaeilge.”
Diddorol nodi taw “reconquest” sy’n cael ei ddefnyddio yn yr iaith fain gan Adams, onid yw hi’n amlwg taw “ail-afael” yw’r gair Cymraeg fwyaf agos ati o edrych ar y dyfyniad uchod?
Mae’n syndod i mi pa mor debyg yw ein hiaith a’n diwylliant ni hefyd i’r ynys sydd draw dros y don;
erbyn hyn dw i wedi arfer ag ymweld ag Inishowen (Ynys Owen), a darllen eu henwau am anifeiliaid fferm yn eu hiaith i fy mhlant i sydd i glywed yr un fath a’r Gymraeg.
Er nad yw’n enwi Cymru yn arbennig, mae’n rhaid bod Adams dal i fod yn genfigennus tu hwnt o’n gallu ni fel cymdeithas i gadw at ein hiaith. Ymwnelasaf ef â materion mor dreisgar fel bod hi’n anodd dychmygu cerdded ar ei ôl ef mewn gorymdaith; neu’n rhesymegol chwaith. Ac erbyn heddiw mae’n cwrdd â– os nid ysgwyd llaw ag – “ein” teulu brenhinol.
Efallai taw hynny yw’r gwahaniaeth fwyaf rhyngom ni a’r Gwyddelod felly – ein bod ni wedi maddau ein gormeswyr am redeg ein gwlad ers Llywelyn ein Llyw Olaf, tra bod y Gwyddelod a’u cof cymdeithasol a chrefyddol hir a chywrain byth yn maddau; efallai’n dewis i beidio â dial erbyn hyn – ond heb faddau byth.
Dwn i ddim pwy sy’n iawn. Rhaid cyfaddef taw agwedd y Gwyddelod sydd wedi bod yn fwyaf effeithiol yn wleidyddol.
Nid y Saeson sy’n byw dros Glawdd Offa – ac yn ein cymunedau ni heddiw – benderfynodd ddilyn Cromwell i’r Iwerddon. Cymysgedd o iaith yr Albanwyr (“The Planters”) a’r Gwyddelod gwreiddiol sydd nawr yn rhannu beth sy’n weddill o’r iaith Wyddeleg:
gan fod Protestaniaid Gorllewin yr Alban – fel capelwyr Cymru – yn cael eu Beibl yn eu hiaith eu hunain; nid bai’r Planters oedd y dirywiad dychrynllyd yn sefyllfa ieithyddol Iwerddon.
Gall fwy o fai fod ar y Gwyddelod eu hunain am hynny, gan gynnwys yr athrylith Swift oedd mor frwd i frasgamu ei frodorion i fwrdd cydraddoldeb ei fod yn hollol barod i esgeuluso iaith ei wlad.
Tra daeth y Beibl ag iaith ysgrifenedig i ni lynu ati, heb gymorth yr Eglwys Gatholig nid oedd gan yr Ynys Werdd y gallu i greu un iaith dros eu gwlad; ac felly pan ddaeth cenedlaetholdeb i’r amlwg yn yr ugeinfed ganrif, doedd yr iaith ddim gwerth iddyn nhw ymladd amdani: roedd wedi gwahanu i’r Gogledd gan ddylanwad yr Albanwyr, ac yn y de roedd teuluoedd yn cael eu chwalu gan ddewisiadau gwleidyddol eu naws, nid ieithyddol.
Fel dw i’n dueddol o ddweud o wrth fy nheulu yn Iwerddon a Chymru, dewisodd y Gwyddelod i ganolbwyntio ar Weriniaeth, a dewisom ni iaith.
Mae’r geiriau yma’n brawf o ryw fath ein bod ni’r Gymru wedi dewis yn gywir yn foesol; a gymaint ydw i’n reddfol yn credu taw annibyniaeth sydd angen ar Gymru, nid fi yw’r person i ofyn ynglŷn â faint o’r nwy “Shale” sydd angen i ni ryddhau oddi tanom cyn i ni allu talu’r un ym mhob tri sy’n gweithio i’r wladwriaeth yng Nghymru.
Ry ni’n gyfoethocach o lawer na’n “cefndryd” yn yr Alban a’r Iwerddon o ran ein hiaith – a’n diwylliant felly. Nid mater i ni yw dewis a ydy’r iaith yn cyfyngu apêl ein cerddoriaeth a’n llenyddiaeth rhag y byd – mae’n rhaid i ni fwrw ati i hybu a chredu er mwyn dod o hyd i’r ateb yna. Dyna wnaeth Sgandinafia yn ddiweddar a nawr mae hyd yn oed y Saeson yn mwynhau is-deitlau.
Gorffennaf gan droi i ddechrau’r erthygl nesaf dan fy sylw am Iwerddon;
ym mharagraff cyntaf ‘The Language of Ulster’, mae’r awdur (Adamson y tro yma) yn cyfeirio at enwau Taliesin ac Aneurin fel prawf o fodolaeth eu hiaith nhw cyn iddi groesi’r môr!
Amser i hawlio eu traddodiad cerddorol nhw fel un ni, a’r Guinness hefyd?
Slainte.
Reblogged this on Monkey sea, monkey does and commented:
Pam nad yw’r Cymry yn ryfelgar?