Adolygiad: Cor Meibion Toronto
Llygaid estron
Weithiau mond trwy llygaid estron y mai modd gwir adnabod eich cynefin, a’ch caneuon chi’ch hunain.
Ar noson hyfryd o haf, 16ain Gorffennaf eleni es i wylio Cor Meibion Toronto yn perfformio ar wahoddiad Cor Meibion Pendyrus yng nghapel Soar, Pontygwaith yn y Rhondda Fach. Rhaid cyfaddef, roeddwn ond yn mynd gan fod f’ewyrth Peter o Ontario yn aelod llawn o’r cor a’m ewyrth Michael, bellach o Sweden yn aelod gwadd. Nid oeddwn yn disgwyl noson o arbennig. Cefais fy siomi ar y ochr orau.
Cafwyd noson o gerddoriaeth amrywiol. Alawon traddodiadol o Ganada; clasuron gospel ac ambell i addasiad o gan bop. Ond braf dweud mai sylfaen y gyngerdd oedd yr hen emynau o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Yn ol yr hanesydd rhyngwladol Norman Davies mae’r emynau hyn ymlith prif trysorau diwylliannol Ewrop. Ac o glywed cor o dramorwyr yn anwylo ac yn ymhyfrydu ynddynt cefais fy narbwyllo o hyn yn llwyr. Ac am y rheswm hwn yn bennaf oll: mae pedwar o bob pump o aelodau’r cor heb unrhyw dras Cymreig o gwbl!
Y mae gwylio estroniaid yn canu’r hen emynau ac arddeliad ac ynganu perffaith yn brofiad hyfryd. Rhoddodd imi ryw gip olwg o rhyw arallfyd rhyfeddol lle’r Gymraeg sy’n tra-arglwyddiaethu’n ddiwylliannol. Daw tyrrau o bobl yma i efelychu ein diwylliant a’i mawrygu. Nid Cymru Fydd, yn gymaint a’r Ddaear Fydd.
Gwelwyd unawdwyr o safon uchel iawn yn canu ambell rhan. Ac i goroni’r cyfan, William Woloschuk, dyn ifanc talentog a dras Iwcrainaidd oedd yn arwain y cor. Yntau wedi derbyn addysg cerddorol clasurol yn Canada, Kyiv a’r Kunstuniversität yn Graz ac yn ymhyfrydu yng nghweithiau anghydffurfiaeth Cymraeg.
Wedi’r sioe aethom draw i Glwb Anwleidyddol yn Stryd Dolgwylim a chael croeso cynnes yno. Cafwyd diolchiadau i’r wyr Toronto a gan Faer y Bwrdeistref Sirol, y Cyngh. Ann Crimmings o Aberdar. A dyma ail sioc y noson. Wrth gyflwyno’r Prif Dinesydd dyma cynrychiolydd Cor Pendyrus yn dweud nifer o bethau gwrth-fenwywaidd ‘doniol’ amdani. Prin oedd yr ymateb. “Mi fyddai fy merched yn ei flingo fe,” dywedodd fy yncl Michael o Sweden. Weithiau mond trwy llygaid estron y mai modd gwir adnabod eich cynefin, y gorau, a’r gwaethaf.
July 16, 2013
Location: Soar Independent Chapel Pontygwaith, sponsored by Pendyrus MVC
Can diolch i CJ Williams am yr adolygiad. PP