Damcaniaeth …amcan iaith?

Ym mis Medi 2012, gwelais hysbys ar y trydar yn son am ysgoloriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth – wedi ei AD gan @marshallmedia os gofia i yn iawn – o un o’r staff yno yn rhan o dîm yn edrych am fyfyrwyr MA i wireddu breuddwyd o hybu cerddoriaeth werin i’r byd.

Bron i 11 mis yn ddiweddarach, dyma fi wedi dod i ben y daith ac mae’n amser cloi pen y mwdwl a chasglu casgliadau.

Felly, beth yn union ydw i wedi dysgu am gerddoriaeth draddodiadol ein gwlad a sut mae’r we yn galluogi ni i’w hybu?

[gyda diolch i gwmni teledu Telesgop a DJ Marc Griffiths ]

Ceir dwy adran i fy nghasgliadau i raddau; sef casgliadau ynglŷn ag arddull a ffurf y gerddoriaeth ei hun, ac yna am arddull a ffurf ei marchnata ar-lein.

Bydd y cofnod hwn yn ymdrin â’r cyntaf o’r rheiny.

Dyma nodyn oddi ar fy mwyaren roeddwn i wedi cyffroi gymaint ganddo gynne wrth yrru buodd rhaid neidio o’r car i’w recordio :

“Pan oeddwn i yn yr Almaen yn grwt ac yn aros a theulu yn ardal Frankfurt, roedd y ddau brawd yn frwd dros ben ar gerddoriaeth U2 ond hefyd y Hothouse Flowers; dau band oeddwn i’n ymwybodol ohonynt heb brynu na fuddsoddi ynddynt o gwbl..”

A’r cwestiwn bryd hynny yw’r un cwestiwn ceisiaf ateb nawr, sef beth yw’r rysáit i greu cerddoriaeth Geltaidd ei naws a bydd yn gwerthu yn llwyddiannus yn dramor – o ddechrau o’r gosodiad nad oes yna farchnad digon eang ymysg Cymry Cymraeg Cymru ei hun i greu neu ychwanegu at y diwydiant.

A’r ateb? Neu’r ateb gwelaf ar hyn o bryd wrth eistedd yng ngwesty moethus yn Donegal wedi’r Fleadh ta beth…

A:

Ceir yn Hothouse Flowers, a U2 yr 80au hwyr i raddau, sawl darn cynhenid o’u bodolaeth sydd yno nid oherwydd eu bod yn Geltiaid, nac ychwaith yn Wyddelod, ond am eu bod yn ymwybodol eu bod yn edrych am gynulleidfa fwy eang.

Mae’n hen hanes erbyn hyn nad oedd Daniel Evans (the Edge) wedi gwrando i unrhyw gerddoriaeth o’r era cyn Led Zeppelin a’r 70au cynnar cyn iddynt recordio “Joshua Tree”; felly er mwyn cyrraedd canol UDA, fe aeth ati i wrando i Leadbelly, Hank Williams, Robert Johnson, Bob Dylan ac yn y blaen a.y.y.b. er mwyn creu ‘Americana’ ffug i ymbelydru eu gwaith fwyaf Americanaidd.

A’r Hothouse Flowers? Megis tomatos yn y tŷ gwydr, roeddynt yn gryf ac yn iach yn ddiwylliannol ac yn amserol hefyd gan eu bod wedi eu creu o’r un sin a daeth a sylw rhyngwladol at The Commitments – RnB a “soul” y bobl du ymysg cerddorfa /Glerorfa Gwyddeleg.

Ac felly ar ddiwedd y gân daw’r geiniog, ac ar ddiwedd y gân ( i ddwyn o’r diwydiant bel droed am ennyd) yr offeryniaeth yn aml sy’n creu’r sain Geltaidd/Werinol, ond yn fwyfwy na hynny – yn arbennig o feddwl am U2;

geiriau sy’n llawn awgrymiadau crefyddol, gafaelgar sy’n denu’r gwrandäwr rhyngwladol nad sydd (fel y brodyr Leutheussers yr Almaen) efo’r iaith yna fel iaith gyntaf, felly’r ailadrodd

“in the name of love…”

“I still haven’t found what I’m looking for”

“Don’t Go..don’t leave me now…while the sun is shining…stick around for some laughter now…”

sydd i glywed yn wych i glust estron, ond yn edrych yn ddigon tila ar bapur – dyna yw hanfod llwyddiant y Gwyddelod i ddenu sylw at eu gwlad ac eu diwylliant cyn i’r Chieftans dianc o’r dafarn a chyn i’r Pogues rhoi cic yn nhinau’r Dubliners.

Ni fydd cerddoriaeth werin sy’n defnyddio iaith ein gwlad byth, bythoedd yn gallu gwneud hynny – y troadigaeth di-grefyddol a lwyddwyd gan Iwerddon yn yr 80au – felly bydd rhaid dod o hyd i arf amgen…ar-lein?

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s