As Daniel Hadley [Hadley 1993: 64] wrote;
“Although DJs lack absolute control over the proceedings, they are still responsible for the creation of a musical space, a space which is formed according to the expectations of the crowd…”
From ‘Ride The Rhythm : 2 approaches to DJ practise’
Journal of Popular Music Studies v 1
Cyfeiriad o ‘Authenticities from Record hops to Raves’ –
eto Sarah Thornton sy’n gyfrifol am yr erthygl, o lyfr
Curran / Morley / Walkerdine Cultural Studies and Communication *
Mae’r dyn – fel arfer dyn ydyw – yn cael seibiant cyn y twrw wrth y bar. Yn edrych o’i amgylch gyda pheint – peint yn gyntaf wedyn mynd i’r colas er mwyn gyrru adref.
Mae’r merched yn siarad tra bod y dynion yn tiwnio eu hofferynnau.
“Pa gân?” Yw’r cwestiwn, mae bron a bod pawb yn gwybod yr ateb, yn yr un modd mae pob un y groesawgar i’r dyn ifanc ar y gitâr Sbaeneg acwstig, a does neb yn dweud iddo fod ei gordiau yn anghywir neu ei fod yn chwarae yn rhy uchel nac yn rhy dawel.
Ond gŵr estron, gŵr dŵad yw e serch hynny. Sawl gwaith mae angen mynd i sesiwn cyn i fod yn rhan ohono?
Does neb yn dangos ymhle yn union i roi ei fysedd ar y byseddfwrdd yn gadarn er mwyn creu reel neu riff fel mae’n hoff o glywed ar y radio – ambell waith. A minor, meddyliai. A miner…er mai gweithwyr sector cyhoeddus, cwangos, yr ymddeoledig a’r myfyrwyr sydd yma heno eto.
Mae ambell un yng nghornel y dafarn am wylio’r pêl droed tra’n yfed eu cwrw dros y twrw.
Cyn diwedd y noson, bydd rhywun yn gofyn i wneud unawd, rhaid cael tawelwch… A oes unrhywbeth mwy difrifol o anesmwyth na gwrando ar solo gwael mewn torf fach sydd wedi eu hymgynnull yn arbennig i’r achos?
O leiaf mae yna fil neu fwy o bobl i gelu to ô iddynt pan mae yna ddamwain ar lwyfan mewn cyngerdd fawr.
Edrych ymlaen – ysu i fynd adref, cyn mynd ac addo dod â’r camera tro nesaf er mwyn dim ond ffilmio.
Mae’n mwynhau’r ffilmio, a ffilms http://youtube.com/panwalesmusiccymru yn fawr iawn.
The tradition of all dead generations weighs like a nightmare on the brain of the living
K. Marx (1951)
[18th Brumaire]
———————————————————————————
* Argymhellaf erthygl David Morley ei hun ar ol-foderniaeth o’r un gyfrol:
Curran, James & Morley, David & Walkerdine, V. (goln.) (1996) Cultural Studies and Communication. Llundain: Arnold.
Cydnabyddaf fod rhai o gysyniadau a chasgliadau fy MA wedi crisialu wedi imi ddarllen ei erthygl ‘Postmodernism: the Rough Guide’ sydd yno [tt.52-62].
ON Ydy, mae’n haws diweddaru gwefan na lyfryddiaeth! WW