Yn ystod nawdegau’r ganrif ddiwethaf, darlledai gorsaf gymunedol Radio Ceredigion sylwebaeth ar ddigwyddiadau chwaraeon yr ardal bob Dydd Sadwrn – o Ddolgellau yn y Gogledd i Landudoch yn y De.
Dyma oedd hafddydd darlledu lleol y Gorllewin, a gwrandawai hegemoni’r BBC mor astud nes eu bod yn adnabod y lleisiau roeddent am ddwgyd; a phob llais yn eu cryfhau hwythau yn ogystal â gwanhau’r gystadleuaeth leol.
Hefyd yn gwrando oedd gohebydd pêl droed The Cambrian News, a defnyddiai copi ar gasét o sioe Saesneg 6yh i greu adroddiad yn yr iaith fain i bapur yr wythnos wedyn.
Cafodd un o gyfranwyr cyson Radio Ceredigion ddigon ar y drefn hon, a ffoniodd Cambrian News efo enw da’r papur newydd yn wystl. Cytunwyd mai’r darlledwr ifanc hwnnw byddai’n cael ei dalu i gyflenwi’r diweddariad wythnosol i’r papur lleol o hynny mlaen. Dechreuwyd y gêm o fonopoli ar lefel lleol Cymreig, ac am gyfnod, bu pob un yn hapus gyda’r drefn newydd.
Ond, mi oedd cywirdeb y cynnwys yn ddibynnol ar adroddiadau’r sylwebwyr di-dâl ar y Sadwrn – nifer ohonynt yn ymlacio yn y dafarn wedi’r gêm – ac felly roedd ambell i gamgymeriad yn tueddu i gael ei ddarlledu’n fyw ar y radio. I gadw enw da’r orsaf a’u cyflwynwyr, penderfynodd y gohebydd i ailadrodd y camgymeriadau yn ffyddlon bob nos Sul yn ei adroddiad i bapur Dydd Iau.
Cyn hir, sylwodd ei dîm lleol ar hyn, ac mi oedd yna bwysau cynyddol i ddisgrifio goliau tîm peldroed Bow St efo lliw ac ymffrost o’r radd flaenaf. Roedd un peldroediwr ifanc wedi dod i ddeall systemau’r cyfryngau lleol o’r micro i’r macro, a phob wythnos ceisiodd archebu “volley from 40 yards out this week!”
Cymrodd y gohebydd ifanc lw y byddai’n dychwelyd i Gymru i ail-afael ar y gêm o fonopoli roedd wrth ei fodd yn chwarae wedi iddo ddychwelyd o Loegr, ble enillodd bywoliaeth go iawn am flwyddyn neu ddwy. Byddai’n dychwelyd yn hynach a mymryn yn gallach wedi cyfnod o farchnata cwmnïau mawrion y cyfnod trwy we o gysylltiadau cyhoeddus, i geisio adennill y tir a chollodd yn ei absenoldeb.
——————————————————————————————————–
Hegemony works through ideology, but it does not consist of false ideas, perceptions, definitions. It works primarily by inserting the subordinate class into the key institutions and structures which support the power and social authority of the dominant order. It is, above all, in these structures and relations that a subordinate class lives its subordination.
Resistance through rituals : John Clarke, Stuart Hall, Tony Jefferson & Brian Roberts
(3ydd argraffiad 1980) t.39.
O ddarllen y gyfrol Resistance through Rituals : A Theoretical Overview, deallwn nad dim ond y dosbarth uchaf sy’n teyrnasu a golygir gan y term ‘hegemoni’; i ryw raddau mae’r system angen cymorth a chefnogaeth y dosbarthiadau islaw hynny – sydd angen eu hennill a’u sicrhau (t.39).
Bwriadaf greu astudiaeth o ddiwylliant Cymreig – yn arbennig cerddoriaeth draddodiadol Gymreig – trwy ystyried y cysyniad hwn o’r gwrthdaro sydd rhwng y sefydliadau sy’n bodoli yn ein cymdeithas. Gwelwn mai system sydd yn gweithredu i fantais grŵp dethol o bobl sydd gennym – trwy werthoedd, credoau, defodau a threfn sefydliadol. Serch hynny, yn ôl Gramsci, equlibirum symudol yw hegemoni (Clarke, Hall et al 1980: t.40).